Yn 2019 gwelwyd dwy ganolfan newydd yn agor. O ganlyniad i waith caled Maria Bennett
Newyddion da i grefftwyr lleol! Bydd canolfan grefft a ffurfiwyd yn ddiweddar, sef Cydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnal ffeiriau crefft rheolaidd yng Nghanolfan Ymwelwyr Bryngarw ar y dydd Sadwrn cyntaf o bob mis, gan ddechrau ddydd Sadwrn 2 Mawrth (11am i 4pm).Ar ôl dwy ffair grefft lwyddiannus yng Nghanolfan Ymwelwyr Bryngarw ar ddiwedd 2018, disgwylir i'r digwyddiadau barhau trwy gydol eleni gyda mwy byth o fusnesau crefft lleol bellach yn cymryd rhan.